Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 8 Rhagfyr 2015

Amser: 09.00 - 10.55
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3291


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

William Powell AC (Cadeirydd)

Russell George AC

Bethan Jenkins AC

Joyce Watson AC

Tystion:

Dr John Cox, Deisebydd

Nesta Lloyd-Jones, Conffederasiwn GIG Cymru

Rob Southall, Deisebydd

Staff y Pwyllgor:

Steve George (Clerc)

Kath Thomas (Dirprwy Glerc)

Gill Eveleigh (Dirprwy Glerc)

Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 248KB) Gweld fel HTML (203KB)

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

</AI2>

<AI3>

2       Deisebau newydd

</AI3>

<AI4>

2.1   P-04-658 Derwen Brimmon

Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod Mr Lloyd Jones ac wedi rhoi cyngor gweithdrefnol i'r deisebwyr.

 

Datganodd Russell George y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae wedi bod i weld y goeden gyda Mr Lloyd Jones ac wedi gwneud sylwadau mewn cyfarfod ymchwiliad cyhoeddus a gynhaliwyd yn y Drenewydd.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddi nodi a yw'n cefnogi gwarchod y goeden a pha gamau y mae'n bwriadu eu cymryd i sicrhau y caiff ei gwarchod.

 

</AI4>

<AI5>

2.2   P-04-660 Y Pwysau Ychwanegol sy'n Wynebu Ardaloedd Gwledig Prin eu Poblogaeth

Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys ac yn llywodraethwr ysgol.

 

Datganodd Russell George y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys ac yn llywodraethwr ysgol.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog er mwyn:

·         Gofyn am ei farn am y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y deisebwyr;

·         Gofyn pa ymchwil sydd wedi'i wneud i'r effaith ar ddisgyblion sy'n derbyn eu haddysg gynradd tu allan i Gymru a'u haddysg uwchradd yng Nghymru ac a oes gan gonsortia addysg unrhyw wybodaeth am nifer y disgyblion yr effeithir arnynt fel hyn.

</AI5>

<AI6>

2.3   P-04-659 Talwch Gostau Teithio Llawn Myfyrwyr Nyrsio

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd am lythyr y Gweinidog.

</AI6>

<AI7>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI7>

<AI8>

3.1   P-04-638 Y Gwasanaethau Brys - Pŵer Mynediad

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a chytunodd i:

·         ofyn eto am ymatebion gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru;

·         gofyn am farn y deisebydd am lythyr y Dirprwy Weinidog; ac

·         ystyried y mater hwn ymhellach yn y Flwyddyn newydd ar ôl derbyn yr ymatebion hynny.

</AI8>

<AI9>

3.2   P-04-649 Addysg Gymraeg - Bendith neu Felltith

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan nad oes llawer yn rhagor y gall y Pwyllgor ei wneud i gymryd materion yn eu blaen. 

</AI9>

<AI10>

3.3   P-04-639 Achubwch Addysg Bellach ym Mhowys

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         aros am farn y deisebwyr am lythyr cynharach y Dirprwy Weinidog a gohebiaeth Grŵp NPTC; a

·         chau'r ddeiseb os na cheir ymateb erbyn diwedd mis Ionawr.

</AI10>

<AI11>

3.4   P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r deisebwyr ystyried derbyn y cynnig o gyfarfod â swyddogion yn y lle cyntaf ac i fwydo yn ôl i'r Pwyllgor er mwyn i'r Aelodau i ystyried y ffordd orau o gymryd materion yn eu blaen.

</AI11>

<AI12>

3.5   P-04-637 Diogelu Dyfodol Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         ysgrifennu eto at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn a oes ganddo unrhyw sylwadau pellach ynghylch llythyr diweddaraf y deisebwyr, yn arbennig ei farn ynghylch barn y grŵp gorchwyl a gorffen am ganolfannau cerddoriaeth fel model; ac

·         ysgrifennu at CBAC i ofyn am wybodaeth bellach am ei gynlluniau yn ymwneud ag adnoddau ar gyfer y Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid.

</AI12>

<AI13>

3.6   P-04-646 Canllawiau Anstatudol yng Nghymru ar Gyfer Awdurdodau lleol ar Addysg Ddewisol yn y Cartref.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried yr ymddengys bod y Gweinidog wedi mynd i'r afael â phryderon y deisebwyr ac wedi cytuno'n flaenorol i sicrhau y caiff eu safbwyntiau eu hystyried wrth ddatblygu'r canllawiau newydd, cytunodd i gau'r ddeiseb.

</AI13>

<AI14>

3.7   P-04-644 Dyfodol Addysg Bellach

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd am lythyr y Gweinidog.

</AI14>

<AI15>

3.8   P-04-626 Israddio Ffordd yr A487 drwy Penparcau, Trefechan a chanol tref Aberystwyth

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd am lythyr y Gweinidog, ond wrth wneud hynny, dangos bod y Pwyllgor yn bwriadu cau'r ddeiseb gan nad yw'n ymddangos bod llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud i symud y mater yn ei flaen yn y Cynulliad hwn.

</AI15>

<AI16>

3.9   P-04-632 Mynyddoedd Pawb

Trafododd yr Aelodau yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac roedd o blaid cau'r ddeiseb o gofio bod y prif faterion y mae'n eu codi yn cael eu datblygu drwy gyfrwng y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Fodd bynnag, mynegodd yr Aelodau siom nad oedd yn ymddangos bod Croeso Cymru na Chynghrair Twristiaeth Cymru wedi ymateb i geisiadau am wybodaeth a chytunodd i ysgrifennu eto at y ddau sefydliad ac ystyried y ddeiseb ymhellach pan ddaw'r ymatebion i law.

</AI16>

<AI17>

3.10P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         Gau'r ddeiseb gan fod y Pwyllgor wedi cymryd y mater hwn cyn belled ag y gall; ac

·         Wrth wneud hynny, gofyn i Mr O'Brien, Prif Weithredwr WEFO:

o   am ei sylwadau am lythyr y deisebwyr a'i ymateb i'w cwestiynau penodol; a

o   chwrdd â'r deisebwyr i drafod eu pryderon. 

 

</AI17>

<AI18>

3.11P-04-641 Perchnogion Tir nad yw wedi cael ei Ddatblygu

Ystyriodd y Pwyllgor gyngor cyfreithiol a oedd yn dangos bod hwn yn fater sydd heb ei ddatganoli lle nad oes gan y Cynulliad y pŵer i gymryd y camau y mae'r ddeiseb yn galw amdanynt.  O ystyried hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.  Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor anfon crynodeb o'r cyngor cyfreithiol ymlaen at y deisebydd.

</AI18>

<AI19>

4       Sesiwn Dystiolaeth - Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r tystion am eu profiad o system ddeisebau'r Cynulliad.

 

</AI19>

<AI20>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ar gyfer y busnes canlynol:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

</AI20>

<AI21>

6       Trafod y Sesiwn Tystiolaeth Lafar - Adolygu'r System Ddeisebau

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth cyn iddo baratoi ei adroddiad.

</AI21>

<AI22>

7       Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ystyriodd y Pwyllgor bapur ar yr adolygiad o ddeisebau, ynghyd â'r dystiolaeth lafar a glywyd yn y sesiwn cynharach, a chytunodd i ystyried argymhellion ar gyfer newidiadau posibl trwy ohebiaeth yn y lle cyntaf.

</AI22>

<AI23>

8       Trafod Sesiwn Dystiolaeth Lafar - P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio ystyried y ddeiseb nes iddo dderbyn rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog yn dilyn ei sesiwn dystiolaeth ar 24 Tachwedd.

</AI23>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>